logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Am ddeffro’r gwanwyn yn ei bryd

Am ddeffro’r gwanwyn yn ei bryd
a gwyrth y geni ymhob crud,
a gweld rhyfeddol liwiau’r byd,
i ti y rhoddwn fawl.

Am roi dy nodau ar bob tant,
dy felys swyn ar wefus plant
ac asbri hen yn nawns y nant,
i ti y rhoddwn gân.

Am gael ein dysgu, gam a cham,
am ofal tyner tad a mam
a chysgod aelwyd rhag pob nam,
i ti y byddo’r clod.

Ac am fod gennym Gymru’n wlad,
a’th Eglwys di i ni’n dref-tad,
a’th ofal drosom, dirion Dad,
fe rown ein hoes i ti.

Rho d’olau glân i’n llwybrau i gyd,
dy gariad at ddoluriau’r byd,
a nerth i’n cynnal ni o hyd
yn enw Iesu Grist.

GWYN ERFYL © Eleri Lovgreen. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd:105)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan