Am dy ddirgel ymgnawdoliad
diolch i ti;
am yr Eglwys a’i thraddodiad
diolch i ti;
clod it, Arglwydd ein goleuni,
am rieni a chartrefi
a phob gras a roddir inni:
diolch i ti!
Pan mewn gwendid bron ag ildio
mi gawn dydi;
pan ar goll ar ôl hir grwydro
mi gawn dydi;
wedi ffoi ymhell o’th lwybrau
ac anghofio dy holl ddeddfau
ac yn ceisio un i faddau,
mi gawn dydi.
Yn y byd yn erbyn pechod
mi wnawn dy waith;
wrth roi nerth i’r rhai mewn trallod
mi wnawn dy waith;
lle mae newyn blin a syched,
plant heb fwyd na dim i’w yfed,
pan ymdrechwn ni i’w gwared
mi wnawn dy waith.
Bydded lle yn ein meddyliau
byth, byth i ti;
a gwahoddiad i’n calonnau
byth, byth i ti;
tyred, Iôr, yn awr yn nerthol,
ti sy’n gwneud pob dydd yn wyrthiol,
gwna’n tystiolaeth ni yn wrol
byth, byth i ti.
GERAINT WYN EDWARDS. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Ar y dôn, Ar Hyd Y Nos)
(Caneuon Ffydd: 847)
PowerPoint