Ar asyn daeth yr Iesu cu
drwy euraid borth Caersalem dref,
a gwaeddai’r plant â’u palmwydd fry:
Hosanna, Hosanna, Hosanna iddo ef!
Fe fynnai’r Phariseaid sur
geryddu’r plant a’u llawen lef,
a rhoddi taw ar gân mor bur:
Hosanna, Hosanna, Hosanna iddo ef!
Ar hyn, atebodd lesu’r dorf,
“Pe na bai’r plant mor llon eu llef
fe lefai’r meini ar hyd y ffordd:”
Hosanna, Hosanna, Hosanna iddo ef!
O boed i blant ein hoes a’n gwlad,
fel cynt gwnâi plant Caersalem dref,
roi clod a mawl i’r Iesu mad:
Hosanna, Hosanna, Hosanna iddo ef!
HYWEL M. GRIFFITHS © Siân Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 272)
PowerPoint