Ar hanner nos yn glir y daeth
Y gân nefolaidd gynt;
I daro’u tannau plygu wnaeth
Angylion ar eu hynt:
“Hedd trwy y byd, ewyllys da
Tirionaf Frenin nef” –
Y ddaear mewn distawrwydd dwys
Wrandawai’r hyfryd lef.
Trwy byrth y nef daw’r rhain o hyd
Ar adain hedd i lawr,
A nofia’u mawl o’r nefol fyd
Uwch holl flinderau’r llawr:
I lawer dyffryn galar prudd
Ymostwng engyl glân,
Ac uwch na’r holl derfysgoedd sydd
Y clywir nefol gân.
Dan bwys ei bai y ddaear brudd
Riddfanna’n ddwys yn awr;
Dan fawl angylion gormes sydd
Yn ymlid oesau’r llawr;
Y dyn wna gam a dyn, ni chlyw
Ganiadau’r engyl glân;
O! gwrando’n awr, er gadael Duw,
A chlyw y nefol gân.
O! D’wysog hedd, adwaenost Ti
Boen, a thrueni’r llawr;
A gwyddost am ein gofid ni,
A’n blinder lawer awr:
Gwasgara ofnau’r byd a’r bedd,
Sy’n cau ein llwybrau’n lân;
A dyro i’r lluddedig hedd
I wrando’r nefol gân.
Ar hanner nos yn glir y daeth
It came upon a midnight clear (Edmund H Sears 1810-76)
Cyfieithiad cyf. W Evans Jones (Penllyn) 1854–1938
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint