Ar ôl atgyfodiad Iesu,
Treuliodd amser yn y byd
Gyda’i ffrindiau a’u haddysgu
Am y cariad mwyaf drud.
Soniodd wrthynt bod ‘na helfa
Ym mysg dynion gwlad a thref,
A bod Duw am rannu iddynt
Holl fendithion mwya’r nef.
Cyn i’r Ysbryd Glân ymddangos
Megis cyffro’r nefol dân
I rhoi grym yr argyhoeddiad
Ac eneiniad yn y gân.
Rhaid oedd gweled Iesu’n codi
Yn ei gorff ar newydd wedd,
Gan fendithio’r tystion newydd
Gydag ysbryd gras a hedd.
Arglwydd Iesu, dyro’th fendith
Arnom ninnau yn ein hoes,
Fel y gallwn ninnau dystio
Am y grym fu’n fwy na’r groes.
Wrth gyflwyno yr Efengyl
Bod i ddynion newydd ddydd,
Helpa ni i gadw’n gadarn
Yn ein gwaith, ac yn ein ffydd.
Denzil Ieuan John. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
Tôn: Moriah neu Pennant.