logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ar y groes

Pennill 1
Ar y groes, ar y groes,
lle bu farw gwir Fab Duw,
Dyma ras, cariad pur
lifa’n rhad o’i ystlys friw.
Dirgelwch rhyfedd yw –
Bu farw i mi gael byw,
aberth perffaith Brenin Nef.
Ar y groes, ar y groes,
cariad perffaith ar y groes.

Pennill 2
Wrth y groes, wrth y groes,
Fy meiau oll gymerodd Crist.
’Nyled i, ei aberth E,
trwy ei waed talwyd y pris.
A thrwy ei ddioddef mawr,
yr offrwm pêr ei sawr,
breichiau cariad sydd ar led.
Wrth y groes, wrth y groes,
Oes, mae cymod wrth y groes.

Pennill 3
At y groes, at y groes,
Ysbryd, dwg fi at y groes.
Plyga’ i’n wylaidd wrth ei draed,
Colled nawr holl elw f’oes.
Digymar fendith yw
Fy nghyfri’n gyfiawn mwy,
a’m galw nawr yn blentyn Duw.
At y groes, at y groes,
Ysbryd, dwg fi at y groes.

Ar y groes
On the cross (Geoff Baker)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
Hawlfraint © ac yn y cyfiethiad hwn Daybreak Music
Gwein, gan www.songsolutions.org.
Defnyddir trwy ganiatâd.
CCLI 7228615

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024