Arglwydd Dduw, mor drugarog,
Yn dy fawr gariad di.
Arglwydd Dduw, roeddem feirw,
Ond fe’n gwnaethost ni’n fyw gyda Christ.
(Dynion)
Yn fyw gyda Christ, yn fyw gyda Christ,
Do fe’n cyfodaist ni gydag ef,
A’n gosod ni i eistedd yn y nefoedd.
Do fe’n cyfodaist ni gydag ef,
A’n gosod ni i eistedd
yn y nefoedd yng Nghrist.
(Merched)
Yn fyw gyda Christ,
yn fyw gyda Christ,
Do, codaist ni,
A’n gosod ni,
Do, codaist ni,
A’n gosod ni yng Nghrist.
Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig gan Arfon Jones. Saesneg: You, O Lord, Rich in mercy: Mark Veary a Paul Oakley
© 1986 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk) Defnyddir trwy ganiatâd.
(Grym Mawl 1: 198)
PowerPoint