Arglwydd gad im fyw i weled,
gad im weled mwy i fyw,
gad i’m profiad droi’n ddatguddiad
ar dy fywyd, O fy Nuw;
a’r datguddiad
dyfo’n brofiad dwysach im.
Gad im ddeall dy ddysgeidiaeth
Arglwydd, wrth ei gwneuthur hi,
gad im wneuthur yn fwy perffaith
drwy’r datguddiad ddaw i mi;
byw fydd cynnydd
mewn gwybodaeth ac mewn gras.
GWILI, 1872-1936
(Caneuon Ffydd 694)
PowerPoint