Arglwydd Iesu, bu hir ddisgwyl
Am dy enedigaeth di,
I ddwyn golau i fyd tywyll
A thrugaredd Duw i ni.
Ti yw nerth a gobaith pobloedd
Sydd yn wan a llwm eu gwedd,
Ti sy’n rhannu’r fendith nefol,
Ti wyt frenin gras a hedd.
Llywodraetha drwy dy Ysbryd
Ein heneidiau gwamal ffôl,
Helpa ni i annog eraill
I ddarganfod gwres dy gôl.
Ti yw rhodd berffeithiaf bywyd
Ti yw’r mwyaf fu mewn bod
Rhown i tithau foliant llawen
Ti sy’n deilwng o bob clod.
Denzil Ieuan John. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
PowerPoint