Emyn y Grawys
Arwain wnaethost, Dduw, trwy’r Ysbryd
D’unig Fab i’r anial maith;
yno dysgodd i ymddiried
yn Dy ras cyn dechrau’i waith.
Gras Dy eiriau
drechodd demtasiynau’r sarff.
Deugain niwrnod o ymprydio,
deugain nos mewn gwewyr llym,
i weddnewid trwy dreialon
wendid dyn yn ddwyfol rym.
Grym Dy eiriau
drechodd demtasiynau’r sarff.
Arwain ninnau i encilio
a gweddïo arnat Dduw;
ymlonyddu yn Dy gwmni
ac ymborthi tra bom byw.
Byw Dy eiriau
drecha demtasiynau’r sarff.
Arwain wnaethost, Dduw, trwy’r Ysbryd
Eirian Dafydd
Tôn: Blaencefn 663 C.Ff., Bryn Calfaria 416 C.Ff., Capel y ddol 576 C.Ff., Catherine 577 C.Ff.
Mesur: 8.7.8.7.4.7
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint