Pennill
Beth bynnag sy o ‘mlaen
Beth bynnag yr ofn
Beth bynnag y gost
Rwyt Ti’n dod yn nes
Beth bynnag y boen
Beth bynnag a ddaw
Beth bynnag all ddod
Mae’th gariad yn drech
Mae’th gariad yn drech
Cytgan
Galwaf i
Galwaf i arnat Ti
Beth bynnag sy o’mlaen
Ti’n fy nal i
Syrthiaf i
Syrthiaf i ar fy nglin
 ‘nghalon ar chwâl
Ti’n fy nal i
Ti’n fy nal i
Pennill
Cytgan
Pont 1
Chwelir pob un mur
Daw y gwyll yn glir
Daw llawenydd newydd im
Plyga pawb i lawr
(Cân) fuddugoliaeth nawr
Bydd y Brenin yn bywhau
Pont 2
Tynnir lawr pob bryn
Bydd celwyddau’n ddim
Codwn ni dy faner fry
Does dim uchder sy
dyfnder na dim byd
Yn medru trechu’th gariad di
Pont 1
Cytgan
Pennill
Diweddglo
Beth bynnag all ddod
Mae’th gariad yn drech
Beth bynnag a ddaw
Ti’n fy nal i
Beth Bynnag Ddaw
Whatever May Come (Jeremy Camp)
Cyfieithiad awdurdodedig: Arwel E. Jones
© 2020 Capitol CMG Amplifier (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Only In You Publishing (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint