Boed i Dduw roi i ni yn ôl cyfoeth ei rym,
Gryfder nerthol drwy’r ysbryd i’n person ni,
Ac i Grist wneud ei gartref yn ein calon ni,
Ac i ni ddod i wybod faint mae o’n ein caru ni!
Cytgan
Beth yw’r uchder? [codi breichiau]
Beth yw’r dyfnder? [breichiau i lawr]
Beth yw’r lled ? [breichiau ar led]
Beth yw’r hyd? [breichiau o’ch blaen]
Pont
Does dim x4 [Ysgwyd pen a bysedd]
Diwedd [codi dwylo – dangos cledrau]
I gariad Duw [dwylo ar eich calon]
Does dim x4 [Ysgwyd pen a bysedd]
Diwedd [codi dwylo – dangos cledrau]
Y mae Duw efo’r gallu i wneud ganwaith gwell
Na dim byd medrwn ni ei ddychmygu, ie!
Trwy y nerth sydd ar waith ynom ni –
Iddo ef bo’r gogoniant o genhedlaeth i genhedlaeth, amen!
Cytgan a pont
© 2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn
PowerPoint PDF English Words MP3