logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ble fyddwn i

Pennill 1
Dy law fu ym mhob rhan
O’m bywyd i ar bob cam
Iesu ti fu wastad gyda mi
Ble bynnag oeddwn i
Roedd dy gwmni di
Iesu ti fu wastad gyda mi

Rhag-Gorws
O, nid oes un tymor a does ‘na’r un lle
Rwyf ar ‘mhen fy hun, heb weled dy wedd
Yn awr rwyf yn cofio, am hyn rwyf yn siŵr
Ti’n ffyddlon im a ’rioed wedi ‘ngadael

Corws
Ble fyddwn i nawr hebot
Ble fyddwn heb dy gariad di
Rwy’n rhyfeddu at dy waith
O Iesu, ble fyddwn i nawr hebot
Ble fyddwn heb dy gariad di
Dim ond diolch yw fy nghân

Pennill 2
F’achub ym mhob gwedd
‘Nhynnu allan o’r bedd
Iesu ti fu wastad gyda mi
Dengys ‘mywyd yn glir
Dy fod yn ein gwella ni
Iesu ti fu wastad gyda mi

Corws
Rhag-gorws (X2)
Corws

Ble fyddwn i
Where Would I Be (Casey Brown/ Hope Darst/ Katelyn Marks)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
Hawlfraint © 2021 Fair Trade Global Songs (Gwein. / Small Stone Media BV, Holland (Gwein. yn y DU/Eire Song Solutions www.songsolutions.org)) / Hope For The Best Songs (Gwein. / Small Stone Media BV, Holland (Gwein. yn y DU/Eire Song Solutions www.songsolutions.org)) / Katelyn Marks Publishing Designee (Gwein. Capitol CMG Publishing) / TBCO Publishing (Gwein. Capitol CMG Publishing) / Gweddill yn ddigysylltiad
CCLI 7183108

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 12, 2025