Boed i’th ddyfroedd bywiol lifo
dros f’enaid i;
Boed i’th Ysbryd Glân di fy meddiannu i.
Arwain fi drwy bob sefylla anodd ddaw;
Fy ngofidion i, a’m beichiau, rof yn dy law.
Iesu, Iesu, Iesu,
Fy Nhad, fy Nhad, fy Nhad,
Ysbryd, Ysbryd, Ysbryd.
Cymer fi o Ysbryd Glân a thyred i lawr;
Dal fi yn dy freichiau addfwyn yma nawr.
Symud bob amheuaeth,
ofn a balchder sy’;
Gad im brofi’th gariad yn fy llenwi i.
Rho dy hun i Iesu, fe wrandawa dy gri;
Fe gei brofi’ freichiau addfwyn ‘danat ti.
Wrth it roi dy hunan iddo, fe ei’n rhydd,
A theyrnasu wnei yn y tragwyddol ddydd.
Let your living water flow, John Watson. Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© Ampelos Music/Thankyou Music 1986 Gwein. gan Copycare
(Grym Mawl 1: 99)
PowerPoint PowerPoint