Cariad Tri yn Un
at yr euog ddyn,
cariad heb ddechreuad arno,
cariad heb ddim diwedd iddo;
cariad gaiff y clod
tra bo’r nef yn bod.
Cariad Duw y Tad,
rhoes ei Fab yn rhad
a’i draddodi dros elynion
i’w gwneud iddo yn gyfeillion;
cariad gaiff y clod
tra bo’r nef yn bod.
Cariad Iesu mawr,
daeth o’r nef i lawr
i gyflawni hen amcanion
gras yn iachawdwriaeth dynion;
cariad gaiff y clod
tra bo’r nef yn bod.
Cariad Ysbryd Duw,
mawr, anfeidrol yw;
gwneuthur cartref iddo’i hunan
yn y galon euog, aflan;
cariad gaiff y clod
tra bo’r nef yn bod.
GWILYM HIRAETHOG, 1802-83
(Caneuon Ffydd 38)