Cariad Tri yn Un at yr euog ddyn, cariad heb ddechreuad arno, cariad heb ddim diwedd iddo; cariad gaiff y clod tra bo’r nef yn bod. Cariad Duw y Tad, rhoes ei Fab yn rhad a’i draddodi dros elynion i’w gwneud iddo yn gyfeillion; cariad gaiff y clod tra bo’r nef yn bod. Cariad Iesu […]
Cydganwn foliant rhwydd i’n Harglwydd, gweddus yw; a nerth ein hiechyd llawenhawn, mawr ydyw dawn ein Duw. O deuwn oll ynghyd yn unfryd ger ei fron, offrymwn iddo ddiolch clau mewn salmau llafar, llon. Cyduned tonnau’r môr eu mawl i’n Iôr o hyd, rhoed y ddaear fawr a’i phlant ogoniant iddo i gyd. O plygwn […]
Dyma gariad fel y moroedd, tosturiaethau fel y lli: T’wysog bywyd pur yn marw, marw i brynu’n bywyd ni. Pwy all beidio â chofio amdano? Pwy all beidio â thraethu’i glod? Dyma gariad nad â’n angof tra bo nefoedd wen yn bod. Ar Galfaria yr ymrwygodd holl ffynhonnau’r dyfnder mawr, torrodd holl argaeau’r nefoedd oedd […]
Dyrchafodd Crist o waelod bedd goruwch y nefoedd wen, lle’r eistedd ar orseddfainc hedd, a’i goron ar ei ben. “Yr Oen a laddwyd, teilwng yw!” medd holl dafodau’r nef; ac uned pob creadur byw i’w foli ag uchel lef. Am iddo oddef marwol glwy’ a’n prynu drwy ei waed, caiff holl goronau’r nefoedd mwy eu […]
Felly carodd Duw wrthrychau anhawddgara’ erioed a fu, felly carodd, fel y rhoddodd annwyl Fab ei fynwes gu; nid arbedodd, ond traddododd ef dros ein pechodau i gyd: taro’r cyfaill, arbed gelyn, “Felly carodd Duw y byd.” Felly carodd, ond ni ddichon holl angylion nef y nef draethu, i oesoedd tragwyddoldeb, led a hyd ei […]
O ddirgelwch mawr duwioldeb, Duw’n natur dyn; Tad a Brenin tragwyddoldeb yn natur dyn; o holl ryfeddodau’r nefoedd dyma’r mwyaf ei ddyfnderoedd, testun mawl diderfyn oesoedd, Duw’n natur dyn! Ar y ddaear bu’n ymdeithio ar agwedd gwas, heb un lle i orffwys ganddo, ar agwedd gwas: daeth, er mwyn ein cyfoethogi, o uchelder gwlad goleuni […]