logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ceisiwn dy deyrnas

Ceisiwn dy Deyrnas yn ein byw a’n gwaith
gan wir ddyheu am weld dy nef yn ffaith.
Llewyrcha nes gwêl pawb dy olau cry-
trawsffurfia a bywha’n cymdeithas ni!

Yn y dechreuad, creaist bopeth sy’
Diwylliant, masnach, celfyddydau lu
Gwna’n gwaith yn gyfrwng i’th gynlluniau di –
trawsffurfia a bywha’n cymdeithas ni!

Bydd yn y maes cyhoeddus, Frenin Ne’,
hedd a chyfiawnder fydd yn llenwi’r lle.
Y gwir a’r glân fo’n sail pob arwain sy’ –
trawsffurfia a bywha’n cymdeithas ni!

Ni wnaethom wrando ar ofidiau’r byd
na dweud a dangos maint dy gariad drud.
O maddau, gwna ni’n dystion gwell i ti –
trawsffurfia a bywha’n cymdeithas ni!

Ffyddlon, llawn cariad fo’n gwasanaeth ni,
nid byw i ni ein hunain ond i ti.
Ym mhopeth, boed i rym d’awdurdod cry
drawsffurfio a bywhau’n cymdeithas ni!

Ceisiwn dy deyrnas
We seek your kingdom (Andy Flannagan, Graham Hunter, Noel Robinson)
Cyfieithiad awdurdodedig Casi M Jones
© Downwardly Mobile; Hunter, Graham; Nu Image Music (Gwein. Integrity Music Ltd)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • October 2, 2024