Chwilio amdanat addfwyn Arglwydd
mae fy enaid, yma a thraw;
teimlo’mod i’n berffaith ddedwydd
pryd y byddi di gerllaw:
gwedd dy ŵyneb
yw fy mywyd yn y byd.
Heddwch perffaith yw dy gwmni,
mae llawenydd ar dy dde;
ond i ti fod yn bresennol,
popeth sydd yn llanw’r lle:
ni ddaw tristwch
fyth i’th gwmni tra bo nef.
Yn y ffwrnais danllyd, greulon,
os tydi a ddaw ymlaen,
‘does ond heddwch a mwyneidd-dra
a thiriondeb yn y tân:
gwên dy gariad
wna bob cystudd yn ddi-rym.
Ti wyf yn ei ‘mofyn, Arglwydd,
ymhob trallod bydd gerllaw;
dilyn fi, ‘rwy’n ofni yma,
dilyn fi, ‘rwy’n ofni draw:
dan dy adain
mi edrycha’n ŵyneb llu.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 701; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 495)
PowerPoint