’D ai ‘mofyn haeddiant byth, na nerth, Na ffafr neb, na’i hedd, Ond Hwnnw’n unig gŵyd fy llwch, Yn fyw i’r lan o’r bedd. Mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad, Ar orsedd fawr y nef; Ac y mae’r cyfan sy mewn bod Dan ei awdurdod Ef. Fe gryn y ddaer ac uffern fawr Wrth amnaid Twysog […]
‘Does arnaf eisiau yn y byd Ond golwg ar dy haeddiant drud, A chael rhyw braw o’i nefol rin, I ‘mado’n lân â mi fy hun. Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd, Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn, ‘Rwy’n methu gorffwys arno’n llawn. O flaen y drugareddfa fawr […]
Af ymlaen, a doed a ddelo, Tra fod hyfryd eiriau’r nef Yn cyhoeddi iachawdwriaeth Lawn, o’i enau sanctaidd Ef; Nid yw grym gelyn llym, At ei ras anfeidrol ddim. Ef yw f’unig wir anwylyd, Y ffyddlonaf Un erioed, Ac mi seinia’ i maes tra fyddwyf, Ei anfeidrol ddwyfol glod; Neb ond Fe, is y ne’, […]
Ai Iesu, cyfaill dynol-ryw, A welir fry, a’i gnawd yn friw, A’i waed yn lliwio’r lle; Fel gŵr di-bris yn rhwym ar bren, A’r goron boenus ar ei ben? Ie, f’enaid, dyma fe. Dros f’enaid i bu’r addfwyn Oen Fel hyn, yn dioddef dirfawr boen, I’m gwneud yn rhydd yn wir; ‘Roedd yn ei fryd […]
Angylion doent yn gyson, rifedi gwlith y wawr, rhoent eu coronau euraid o flaen y fainc i lawr, a chanent eu telynau ynghyd â’r saint yn un: fyth, fyth ni chanant ddigon am Dduwdod yn y dyn. Fyth, fyth, am Dduwdod yn y dyn, fyth, fyth ni chanant ddigon am Dduwdod yn y dyn. O […]
Anturiaf at ei orsedd fwyn, Dan eithaf tywyll nos; Ac mi orffwysaf, doed a ddêl, Ar haeddiant gwaed y groes. Mae ynddo drugareddau fil, A chariad heb ddim trai, A rhyw ffyddlondeb fel y môr At ei gystuddiol rai. Mi rof ffarwél i bob rhyw chwant – Pob pleser is y nen; Ac yr wy’n […]
Anweledig! ‘rwy’n dy garu, rhyfedd ydyw nerth dy ras: tynnu f’enaid i mor hyfryd o’i bleserau penna’ i maes; gwnaethost fwy mewn un munudyn nag a wnaethai’r byd o’r bron ennill it eisteddfa dawel yn y galon garreg hon. ‘Chlywodd clust, ni welodd llygad, ac ni ddaeth i galon dyn mo ddychmygu, chwaethach deall natur […]
Arglwydd, arwain drwy’r anialwch fi, bererin gwael ei wedd, nad oes ynof nerth na bywyd, fel yn gorwedd yn y bedd: hollalluog ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan. Colofn dân rho’r nos i’m harwain, a rho golofn niwl y dydd; dal fi pan fwy’n teithio’r mannau geirwon yn ffordd y sydd; rho im fanna fel […]
Arglwydd, edrych ar bererin Sy’n mynd tua’r wlad sydd well, Ac yn ofni sŵn llifogydd Wrth eu clywed draw o bell; ‘Dwyf ond gwan, dal fi i’r lan, Mi orchfygaf yn y man. Ar y tyle serth llithredig Dal fi’n gadarn yn dy law; N’ad im golli ‘ngolwg fymryn Ar y bryniau hyfryd draw – […]
Arhosaf ddydd a nos, Byth bellach dan dy Groes, I’th lon fwynhau; Mi wn mai’r taliad hyn, Wnaed ar Galfaria fryn, A’m canna oll yn wyn Oddi wrth fy mai. Yn nyfnder dŵr a thân, Calfaria fydd fy nghân, Calfaria mwy: Y bryn ordeiniodd Duw Yn nhragwyddoldeb yw, I godi’r marw’n fyw Trwy farwol glwy’. […]