Clodforwch bawb ein Harglwydd Dduw,
doed dynol-ryw i’w ganmol;
ei hedd, fel afon fawr, ddi-drai,
a gaiff ddyfrhau ei bobol.
Ei air a’i amod cadw wna,
byth y parha’i ffyddlondeb
nes dwyn ei braidd o’u poen a’u pla
i hyfryd dragwyddoldeb.
Ef ni newidia, er gweld bai
o fewn i’w rai anwyla’;
byth cofia waed Tywysog nen,
a’i boen ar ben Calfaria.
Pan ballo ffafor pawb a’u hedd,
Duw, o’i drugaredd odiaeth,
yn Dad, yn Frawd, yn Ffrind a fydd
ar gyfyng ddydd marwolaeth.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 170; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 133)
PowerPoint