Corona’n hoedfa ar hyn o bryd
â’th hyfryd bresenoldeb;
rho brofi grym dy air a’th hedd
a hyfryd wedd dy ŵyneb.
Llefara wrthym air mewn pryd,
dod ysbryd in i’th garu;
datguddia inni’r oedfa hon
ogoniant person Iesu.
1 DAFYDD WILLIAM, 1721?-94, 2 SIȎN SINGER, c. 1750-1807
(Caneuon Ffydd 11; Llawlyfr Moliant Newydd 139)