Anghrediniaeth, gad fi’n llonydd, onid e mi godaf lef o’r dyfnderoedd, lle ‘rwy’n gorwedd, i fyny’n lân i ganol nef; Brawd sydd yno’n eiriol drosof, nid wy’n angof nos na dydd, Brawd a dyr fy holl gadwynau, Brawd a ddaw â’r caeth yn rhydd. ‘Chydig ffydd, ble ‘rwyt ti’n llechu? Cymer galon, gwna dy ran; […]
Corona’n hoedfa ar hyn o bryd â’th hyfryd bresenoldeb; rho brofi grym dy air a’th hedd a hyfryd wedd dy ŵyneb. Llefara wrthym air mewn pryd, dod ysbryd in i’th garu; datguddia inni’r oedfa hon ogoniant person Iesu. 1 DAFYDD WILLIAM, 1721?-94, 2 SIȎN SINGER, c. 1750-1807 (Caneuon Ffydd 11; Llawlyfr Moliant Newydd 139)
Da yw y groes, y gwradwydd, Y gwawd, a’r erlid trist, Y dirmyg a’r cystuddiau, Sydd gyda Iesu Grist; Cans yn ei groes mae coron, Ac yn ei wawd mae bri, A thrysor yn ei gariad Sy fwy na’n daear ni. (W.W.) Rho brofi grym ei gariad Sy’n annherfynol fôr, I’m tynnu tua’r bywyd, Fy […]
Hosanna, Haleliwia, fe anwyd Brawd i ni; fe dalodd ein holl ddyled ar fynydd Calfarî; Hosanna, Haleliwia, Brawd ffyddlon diwahân; Brawd erbyn dydd o g’ledi, Brawd yw mewn dŵr a thân. Brawd annwyl sy’n ein cofio mewn oriau cyfyng, caeth; Brawd llawn o gydymdeimlad ni chlywyd am ei fath; Brawd cadarn yn y frwydyr; fe […]
O Arglwydd, dyro awel, a honno’n awel gref, i godi f’ysbryd egwan o’r ddaear hyd y nef; yr awel sy’n gwasgaru y tew gymylau mawr; mae f’enaid am ei theimlo: o’r nefoedd doed i lawr. Awelon Mynydd Seion sy’n cynnau nefol dân; awelon Mynydd Seion a nertha ‘nghamre ‘mlaen; dan awel Mynydd Seion mi genais […]
O Dduw, rho im dy Ysbryd, dy Ysbryd ddaw â gwres, dy Ysbryd ddaw â’m henaid i’r nefoedd wen yn nes; dy Ysbryd sy’n goleuo, dy Ysbryd sy’n bywhau, dy Ysbryd sydd yn puro, sancteiddio a dyfrhau. Dy Ysbryd sydd yn cynnal yr eiddil, gwan ei ras, yn nerthu’r enaid egwan sy’n ofni colli’r maes; […]
O’r nef mi glywais newydd fe’m cododd ar fy nhraed – fod ffynnon wedi ei hagor i gleifion gael iachâd; fy enaid, rhed yn ebrwydd, a phaid â llwfwrhau, o’th flaen mae drws agored na ddichon neb ei gau. O Arglwydd, dwg fy ysbryd i’r ffynnon hyfryd, lân; ysgafnach fydd fy meichiau, melysach fydd fy […]
Rhyfeddol a rhyfeddol erioed yw cariad Duw: ei hyd, ei led, ei ddyfnder, rhyw fôr diwaelod yw; a’i uchder annherfynol sydd uwch y nefoedd lân, Hosanna, Haleliwia! fy enaid, weithian cân. Rhyfeddol a rhyfeddol: fe wawriodd bore ddydd, daeth carcharorion allan o’u holl gadwyni’n rhydd: fe gododd heulwen olau, a’i hyfryd lewyrch glân, Hosanna, Haleliwia! […]
Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau, nid oes neb a ddeil fy mhen ond fy annwyl Briod Iesu a fu farw ar y pren: cyfaill yw yn afon angau, ddeil fy mhen i uwch y don; golwg arno wna im ganu yn yr afon ddofon hon. O anfeidrol rym y cariad, anorchfygol ydyw’r gras, digyfnewid […]