Cyffelyb un i’m Duw
Ni welodd daer na nef;
‘D oes un creadur byw
Gymherir iddo Ef;
Cyflawnder mawr o râs di-drai
Sydd ynddo fythol yn parhau.
Yn nyfnder twllwch nôs
Mi bwysaf ar ei râs;
O’r twllwch tewa’ ’rioed
Fe ddŵg oleuni i maes:
Os gŵg, os llîd, mi af i’w gôl,
Mae’r wawr yn cerdded ar ei ôl.
Ymffrostiaf ynddo Ef
Ped ymderfysgai’r byd,
Pe dilyw ddôi’r ail waith
I guddio’r ddaer i gyd;
Rhyw noddfa lawn a lloches sy
Uwch tymestl yn f’Anwylyd cu.
William Williams, Pantycelyn
PowerPoint