Cyffwrdd ynom, Dduw pob llafar,
rho i’n moliant newydd flas;
rho’r marworyn ar bob gwefus
i gyhoeddi maint dy ras:
llifed geiriau cysur drwom
i ddiddanu’r unig, trist;
gad i ni adleisio’r cariad
sydd yn nwfn dosturi Crist.
Cyffwrdd ynom, Dduw pob gweithred,
ennyn ynom awydd gwiw
i liniaru ofnau dwysaf
yr anghenus o bob lliw:
dysg i’n dwylo roi esmwythyd
i’r eiddilaf dan ei loes;
gad i’n traed ledaenu’r cariad
a ddadlennwyd ar y groes.
Cyffwrdd ynom, Dduw pob rhinwedd,
nertha ni â’th Ysbryd Glân
i droi’n gweddi’n edifeirwch
a throi’n ffydd yn golofn dân:
rhoist dy unig Fab i farw
dros anufudd deulu’r llawr;
gad i ninnau brofi’r cariad
gwyd o’i atgyfodiad mawr.
DEWI JONES Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 585)
PowerPoint