’D ai ‘mofyn haeddiant byth, na nerth,
Na ffafr neb, na’i hedd,
Ond Hwnnw’n unig gŵyd fy llwch,
Yn fyw i’r lan o’r bedd.
Mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad,
Ar orsedd fawr y nef;
Ac y mae’r cyfan sy mewn bod
Dan ei awdurdod Ef.
Fe gryn y ddaer ac uffern fawr
Wrth amnaid Twysog nen;
O!’r fath gogoniant sydd i’r Hwn
Fu’n dioddef ar y pren.
O! Iesu, cymer fi i gyd,
Fel mynnych, gad im fod;
Ond im gael treulio pob yr awr
Yn hollol er dy glod.
William Williams, Pantycelyn
PowerPoint