Dal fi fy Nuw, dal fi i’r lan,
‘n enwedig dal fi lle ‘rwy’n wan;
dal fi yn gryf nes mynd i maes
o’r byd sy’n llawn o bechod cas.
Gwna fi’n gyfoethog ymhob dawn,
gwna fi fel halen peraidd iawn,
gwna fi fel seren olau wiw
‘n disgleirio yn y byd ‘rwy’n byw.
Dysg im, fy Nuw, dysg im pa fodd
i ddweud a gwneuthur wrth dy fodd;
dysg im ryfela a’r ddraig heb goll,
a dysg im goncro ‘mhechod oll.
Tra caffwyf rodio’r ddaear hon
rho dy dangnefedd dan mron;
ac yn y diwedd moes dy law,
i’m dwyn i mewn i’r nefoedd draw.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 687; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 164)
PowerPoint