Dal fi’n gadarn hyd pan ddelo
Amser hyfryd o ryddhau,
A chael, yn lle temtasiynau,
Yn dragywydd dy fwynhau:
Dyna’r pryd – gwyn fy myd! –
Derfydd fy ngofidiau i gyd.
Ti gei’r enw a’r anrhydedd
A’r gogoniant yn y man,
Am, o ddyfnder maith trueni
Iti wared f’enaid gwan:
Nid oedd un ond dy Hun
Allsai wared aflan ddyn.
Mi af drwy fyddinoedd cryfion
Yr estroniaid gwaetha’u rhyw,
Ond cael gweled bod o’m hochor
Addewidion gwir fy Nuw;
Concro wnair, ar ei air,
Y gelynion gwaetha’ a gair.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 436)
PowerPoint