(Ceisio Duw yn unig)
Dal fy llygad, dal heb ŵyro,
Dal ef ar d’addewid wir;
Dal fy nhraed heb gynnig ysgog
Allan fyth o’th gyfraith bur;
Boed d’orchmynion,
Imi’n gysur ac yn hedd.
O! darfydded imi garu
Unrhyw bleser îs y ne’,
A darfydded im fyfyrio
Ar un gwrthrych yn dy le:
Aed fy ysbryd
Oll yn awr yn eiddot Ti.
Rho’r tymherau, rho’r grasusau,
Yn fy enaid i ynghyd,
Rhoddaist gynt i’th rai anwylaf,
Oll yn rhad o ddechrau’r byd:
Dedwydd fyddaf –
Dedwydd tra fo’r nef yn bod.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 486)
PowerPoint