Datganaf dy glod, O Arglwydd fy Nuw,
dy wyrthiau a’th nerth sydd hynod eu rhyw;
d’ogoniant a’th harddwch a welir drwy’r byd,
a phopeth a greaist sy’n rhyfedd i gyd.
Goleuni o bell a roddaist uwchben,
a thaenaist y nef o amgylch fel llen,
y sêr a’r planedau a’r wybren las, faith
sy’n datgan drwy’r bydoedd dy fawredd a’th waith.
Gorseddfa Duw sydd yn entrych y nef,
mewn tonnau a thwrf y clywir ei lef,
mewn tarth a chymylau y gwelir ei hynt
yn rhodio’n ardderchog ar adain y gwynt.
Gogoniant i’r Tad a greodd y byd,
gogoniant i’r Mab a’n prynodd mor ddrud,
gogoniant i’r Ysbryd a’n pura’n ddi-lyth:
i’r Drindod mewn undod rhown foliant dros byth.
ROBERT GRANT, 1779-1838 efel. ANAD.
(Caneuon Ffydd 117)
PowerPoint