Deued dyddiau o bob cymysg
Ar fy nherfynedig oes;
Tywynned haul oleudeg llwyddiant,
Neu ynteu gwasged garw groes, –
Clod fy Nuw gaiff lanw ‘ngenau
Trwy bob tymestl, trwy bob hin;
A phob enw gaiff ei lyncu
Yn ei enw Ef ei hun.
Ynddo’n unig ‘rwy’n ymddiried, Hollalluog yw fy Nuw;
A ffieiddio’r wyf bob noddfa
Arall – annigonol yw;
Yn ei iachawdwriaeth rasol
Yn unig ‘r wyf yn llawenhau;
Dyma’r fan y tardd cysuron
Sy’n dragwyddol yn parhau.
Mae ei glustiau yn agored
I bob rhyw ddrylliedig lef,
Ac mae’r drom ochenaid glwyfus
Yn cyrhaeddyd ato Ef;
Pan fo twllwch ac anobaith
Yn amgylchu’r llwybrau cudd,
Fe ddaw ’mlaen, fe dry y cyfnos
Yn gan goleuach hanner dydd.
Boed fy nhafod fyth, gan hynny,
Yn seinio’i anghymarol glôd, Rhyfeddodau maith y cariad,
Pennaf welodd dyn erioed;
Caiff angylion a seraffiaid
Blethu eu cân â mi yn un,
Gyda llu heb un rhifedi,
Am ogoniant Mab y Dyn.
William Williams, Pantycelyn
PowerPoint