Pennill 1
Hyder sydd gen i nawr i fyw
Daw o ffyddlondeb pur fy Nuw
Mewn storm mae tawel fan,
D’addewid ar y lan
Ymddiried wyf yng ngrym Dy Air
I’th Deyrnas cydiaf i yn daer
Tu hwnt i’r anial ffordd,
Tu hwnt i’r enfawr don
Cytgan 1
Pan gerddaf trwy’r holl ddyfroedd,
Beth all fy nhrechu nawr?
Pan af i drwy’r afonydd
Beth all fy nhynnu lawr?
Fy Nuw a wnaiff y ffordd,
Does gennyf i ddim ofn
Pennill 2
Tragwyddol, d’addewidion sydd
Yn digwydd yn dy amser Di
Ni ddigalonaf mwy
Codaf fy nwylo fry
A chychwyn canu mewn i’r nos
Yr haul sy’n codi i sain fy nghlod
Y rhyfel sydd i Ti
Gorffennwyd yw y cri
Cytgan 2
Pan gerddaf trwy’r holl ddyfroedd,
Beth all fy nhrechu nawr?
Pan af i drwy’r afonydd
Beth all fy nhynnu lawr?
Fy Nuw a wnaiff y ffordd,
Does gennyf i ddim ofn
Wrth gerdded trwy y fflamau,
Ni losgaf yn y tân
Safaf o flaen y cewri,
Buddugol yw fy nghân
Fy Nuw a wnaiff y ffordd,
Does gennyf i ddim ofn
Pont
Tu ôl ac o’m blaen i,
Wrth f’ochr wyt ti
Mewn dyffryn, mewn cysgod,
Rwyt Ti’n fy nghanfod
Does gennyf i ddim ofn.
Dim ofn
Not afraid (Adaeze Noelle Brinkman | David Anderson | Mia Fieldes | Travis Ryan)
Cyfieithiad awdurdodedig Rhys Hughes
© 2017 All Essential Music (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Be Essential Songs (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Red Rocks Worship (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Tempo Music Investments (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Integrity’s Alleluia! Music (Gwein. gan Integrity Music Ltd)
The Worship Society (Gwein. gan Integrity Music Ltd)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint