Duw a wnaeth y byd,
y gwynt a’r storm a’r lli,
ond nid yw e’n rhy fawr
i’n caru ni.
Duw a wnaeth y sêr
sy’n sgleinio acw fry,
ond nid yw e’n rhy bell
i’n caru ni.
Duw a ddaeth un tro
i’w fyd, daeth yma’n fyw,
a dangos wnaeth i ni
mai cariad yw.
GWYN THOMAS Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 141)
PowerPoint