logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Duw, y bythol, fywiol Iôr

Pennill 1
Duw, y bythol fywiol Iôr –
Gwir Awdur iachawdwriaeth,
Ef luniodd ddeddfau d’aer a nef
A ffurfio bydoedd drwy Ei lef.
Yr Un gaiff barch y nefol lu
Greodd sêr yr wybren fry,
Rhifodd bob gronynnyn mân,
Gŵyr feddyliau calon dyn –
Brenin yw ’n oes oesoedd,
Brenin yw ’n oes oesoedd,
Brenin yw ’n oes oesoedd mwy.

Pennill 2
Duw, ein caer a’n bythol nerth,
Y graig – ar hon dibynnwn ni.
Di-ail Ei ogoniant yw,
Ei rym, ei nerth a’i allu byw.
Ni siglir Hwn gan ddichell dyn –
‘Ydwyf ddigyfnewid Un’.
Syrthio wna teyrnasoedd byd
Ffyddlon Iôr drwy’r oll a fydd –
C’ronwn Ef ’n oes oesoedd,
C’ronwn Ef ’n oes oesoedd,
C’ronwn Ef ’n oes oesoedd mwy.

Pennill 3
Nerthol Dduw mewn meidrol gnawd,
Ei wrthod ga’dd gan gusan brad,
Holl felltith pechod dynol ryw
Drywanodd galon gwir Oen Duw.
Codwyd fry’r dibechod Un,
Hoeliwyd yno’r Mab di-fai a’i
Gladdu’n siŵr gan farwol rai, ond
Llaw Ei Dad achubodd Ef –
Teyrnasa’n Rhi ’n oes oesoedd,
Teyrnasa’n Rhi ’n oes oesoedd,
Teyrnasa’n Rhi ’n oes oesoedd mwy.

Pennill 4
Frenin Bythol, Dduw pob Gras,
Rhown i Ti fawl, ein parch a chlod.
Bloeddia’r Nef a chân y saint
“Wyt Sanctaidd, Sanctaidd, Sanctaidd Iôr!”
Llawenydd pur – tragwyddol fyw;
Cariad oll a ffydd fydd glir;
Tegwch saif a moliant Nef –
Enw Iesu’n uwch pob llef;
Brenin Nef ’n oes oesoedd,
Brenin Nef ’n oes oesoedd,
Brenin Nef ’n oes oesoedd mwy.
Ie, Brenin Nef ’n oes oesoedd,
Brenin Nef ’n oes oesoedd,
Brenin Nef ’n oes oesoedd mwy.

Duw, y bythol, fywiol Iôr
God The Uncreated One (Aaron Keyes/Pete James)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© 2016 10000 Fathers; Common Hymnal Publishing; Thankyou Music; Getty Music Hymns and Songs (Gwein. gan Integrity Music Ltd, Music Services Inc)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024