Duw yw fy ngoleuni; yr Arglwydd yw f’achubwr cryf.
Duw yw caer fy mywyd, does neb yn gallu ‘nychryn i.
Ceisiais un peth gan fy Nuw,
Yn ei dŷ gad imi fyw,
I syllu ar ei harddwch, a’i geisio yn ei deml bob dydd.
Duw fydd yn fy nghadw’n ei gysgod pan ddaw dyddiau gwael,
A’m cuddio yn ei babell, a’m codi fry ar gadarn graig.
Codaf fi fy mhen yn awr
Uwch gelynion ar bob llaw
Canaf a chanmolaf fy Arglwydd mewn gorfoledd hael.
Gwranda, Dduw, pan alwaf; trugarog un, o ateb fi.
‘Ceisia’i wyneb Ef,’ meddai ‘nghalon fach amdanat ti.
Ceisiaf di, o Arglwydd mawr,
Paid â chefnu arna’i ‘nawr,
Ti fu’n gymorth i mi, ‘Ngwaredwr; paid â’m gadael i.
Geiriau: Salm 27:1, 4-9 addas. Cass Meurig
Tôn: Beth yw’r haf i mi(tradd)