logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dy Drigfan Di

Pennill 1
Popeth ‘sblennydd
Popeth ddaw o’th law
Drwy’r holl Nefoedd
A thrwy’r bydysawd oll
Iôr, mor raslon
Yw dy groeso Di
I mewn i’th gwmni
I dy drigfan Di

Corws
O mor hyfryd
O mor hyfryd
Yw’th drigfan Di
Dy drigfan Di
O mor werthfawr
O mor werthfawr
Yw’th drigfan Di
Dy drigfan Di

Pennill 2
D’eiddo Di yw
Bobman braf a hardd
Drwy’r holl nefoedd
Ac ar ddaear lawr
Mor rhyfeddol
Yw, yn anad dim,
I Ti ein derbyn
Fel dy drigfan Di

Pont
Daw’th groeso byth i ben
Daw’th groeso byth i ben

Dy Drigfan Di
Your Dwelling Place (Leslie Jordan a Sam Yoder)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2021 Integrity’s Praise! Music (Gwein. gan Integrity Music Ltd)
Little Way Creative (Gwein. gan Integrity Music Ltd)
Vineyard Worship Publishing USA (Gwein. gan Integrity Music Ltd)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024