Edrych ar y rhai sy’n ceisio
yn dy Eglwys le yn awr,
dyro iddynt nerth i gofio
am eu llw i’r Ceidwad mawr;
cadw hwy’n ddiogel beunydd
drwy holl demtasiynau’r daith,
dan gawodydd gras rho gynnydd
ar eu bywyd yn dy waith.
O bugeilia di fyfyrdod
y disgyblion ieuainc hyn,
dangos iddynt fawr ryfeddod
aberth Iesu ar y bryn;
rho oleuni’r nef i’w tywys
yn y byd ar hyd eu hoes,
ac ymhob rhyw brofiad dyrys
torred arnynt wawr y groes.
JOHN ROBERTS, 1910-84 © Judith M. Huws. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 656)
PowerPoint