Edrych arnaf mewn tangnefedd –
Dy dangnefedd hyfryd, mae
Fel rhyw afon fawr lifeiriol,
Yn ddiddiwedd yn parhau:
Môr o hedd yw dy wedd
Sy’n goleuo’r byd a’r bedd.
Maddau fel y cyfeiliornais,
Weithiau i’r dwyrain, weithiau i’r de;
Maddau drachwant cas fy nghalon
I ymado i maes o dre’;
Dwg yn ôl f’ysbryd ffôl,
I’th fwyn dirion dawel gôl.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 444)
PowerPoint