logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Edrych tua’r Oen

Pennill 1
Dim ond un Enw sydd yn deilwng
Dim ond un Iôr i’w orsedd Ef
Ef yw goleuni’n iachawdwriaeth
Mae’r clod a’r moliant Iddo Ef

Pennill 2
Dim ond un ffordd sydd i ddod Ato
Un cariad dodda ‘nghalon i
Y bywyd yw a’r atgyfodiad
Mae’r clod a’r moliant Iddo Ef

Corws
Edrych tua’r Oen
Wele Fab ein Duw’n Waredwr ar y groes
Gweld y goron ddrain a briw ei ystlys Ef
Mae E’n deilwng
Edrych tua’r Oen
Dyma’r Un a ogoneddir nawr am byth
Mae ‘na dân a chariad yn ei lygaid Ef
Mae E’n deilwng
Mae E’n deilwng

Pennill 3
Ef yw yr Alffa a’r Omega
A fu, ac sydd ac eto’ i ddod
Daw Ef yn ôl yng nghlyw ein bloeddio
Ei enw, Iesu Grist, ein Duw
Ei enw, Iesu Grist, ein Duw

Corws

Pont 1 (X2)
Plyga pob un nawr o’i flaen
Saint ac engyl ganant fawl
Atseinia’r anthem nos a dydd
Teilwng

Gwallt yn wyn fel eira glân
Llais fel sŵn y moroedd mawr
Hyfryd a digymar yw
Teilwng

Pont 2 (X2)
Teilwng yw yr Oen
Teilwng
Teilwng yw yr Oen
Teilwng

Chorus

Tag
Mae yn deilwng
Rwyt yn deilwng (X4)

Edrych tua’r Oen
Look to the Lamb (Bryan Torwalt, Lindy Cofer, Mitch Wong a Tommy Iceland)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© Capitol CMG Genesis; Capitol CMG Paragon; Jesus Culture Music Group; Lindy Cofer Publishing; Songs For TIM; Torwalt Music Publishing Global; A Wong Made Write Publishing; Integrity’s Praise! Music
(Gwein. Capitol CMG Publishing, Integrity Music Ltd)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 1, 2024