Eiddo yr Arglwydd, eiddo yr Arglwydd,
eiddo yr Arglwydd y ddaear i gyd,
a’r cyfan ag sydd yn y byd i gyd.
Codwch eich pennau, O byrth, codwch eich pennau,
i Frenin y gogoniant gael dod i mewn,
i Frenin y gogoniant ddod i mewn.
Pwy yw y Brenin, pwy yw y Brenin?
Arglwydd y lluoedd yw efe, Arglwydd y lluoedd:
eiddo yr Arglwydd, eiddo yr Arglwydd,
eiddo yr Arglwydd y ddaear i gyd,
a’r cyfan ag sydd yn y byd i gyd,
a’r cyfan ag sydd yn y byd i gyd.
SALM 24: 1, 7, 8 addas. TECWYN IFAN a RHIANNON IFAN. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 278)
PowerPoint