Ein Tad wyt ti, O uchel Iôr,
yr hwn a greodd dir a môr,
tydi a’n creaist ar dy lun
i’th wasanaethu di dy hun:
O dysg in fyw, er mwyn dy rodd,
yn dangnefeddwyr wrth dy fodd.
Rhag in dristáu dy Ysbryd di,
a throi yn wae ein daear ni;
rhag ymffrost mawrion wŷr y gad,
rhag cri’r amddifad ymhob gwlad:
O Dduw yr hedd, gwna ni bob un
yn dangnefeddwyr ar dy lun.
O cymer di bob dysg a dawn,
sancteiddia hwynt â’th ras yn llawn,
a rho i’th blant hyd eitha’r byd
gael gwir fwynhau ei gyfoeth drud:
gwna ni, O Dduw, rhag cur, rhag cwyn,
yn dangnefeddwyr er dy fwyn.
Rho’n hael i ni dy nerth bob awr
i droi’n baradwys ddaear lawr;
a thyfed blodau’n ôl ein traed
hyd erwau a fu’n feysydd gwaed:
Dduw nef, gwna’n holl benaethiaid ni
yn dangnefeddwyr ynot ti.
ROBERT OWEN, 1908-72 © Arwel Elis Owen. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 850)
PowerPoint