Gwêl acw’r Oen a ddug ein pechod ni
Lladdwyd Ef: cofiwn Ei aberth,
A’i Air y caiff y sawl a ddaw mewn ffydd
Brofi pardwn wrth y groes.
Rhannu wnawn Fara’r Bywyd pur
Yfwn ddracht o’i fawr aberth gwir,
Arwydd clir o’n holl rwymau hedd –
Wrth gymun fwrdd y Brenin Mawr.
Do, darniwyd ein Gwaredwr, Iesu Grist,
Drosot ti: bwytawn a chofiwn.
Rhinweddol friw, y Bywyd ddaw o dranc
Dalodd bris i’n gwneud yn un.
Rhannu wnawn Fara’r Bywyd pur,
Yfwn ddracht o’i fawr aberth gwir,
Arwydd clir o’n holl rwymau serch –
Wrth gymun fwrdd y Brenin Mawr.
Ei waed sy’n puro staen pob pechod cas
Gollodd Ef: yfwn gan gofio.
Fe ddrachtiodd gwpan gwae i’n prynu’n llwyr
Ni gawn dderbyn Bywyd Duw.
Rhannu wnawn Fara’r Bywyd pur,
Yfwn ddracht o’i fawr aberth gwir,
Arwydd clir o’n holl rwymau gras –
Wrth gymun fwrdd y Brenin Mawr.
Mewn ffydd a diolchgarwch codwn ni,
’Mateb rown: ac yma cofiwn
Ei alwad ar in ddilyn ôl traed Crist
Fel Ei bobl yn y byd.
Cyfran gawn yn Ei ddioddef Ef,
Datgan wnawn: fe ddaw Crist drachefn!
’Munwn oll, yno ’ngwledd y nef –
Wrth gymun fwrdd y Brenin Mawr.
Communion Hymn (Behold the Lamb) Stuart Townend, Keith & Kristyn Getty
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© 2006 Thankyou Music (Gwein. CapitolCMGPublishing.com ac eithrio DU ac Ewrop, gwein.
IntegrityRIghts.com)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint