Enaid gwan, paham yr ofni?
Cariad yw
meddwl Duw,
cofia’i holl ddaioni.
Pam yr ofni’r cwmwl weithian?
Mae efe
yn ei le
yn rheoli’r cyfan.
Os yw’n gwisgo y blodeuyn
wywa’n llwyr
gyda’r hwyr,
oni chofia’i blentyn?
Duw a ŵyr dy holl bryderon:
agos yw
dynol-ryw
beunydd at ei galon.
Er dy fwyn ei Fab a roddodd:
cofia’r groes
ddyddiau d’oes:
“Canys felly carodd.”
Bellach rho dy ofnau heibio;
cariad yw
meddwl Duw:
llawenycha ynddo.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 200)
PowerPoint