logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe Wyddost Ti fy Enw i

Pennill 1
Fe ŵyr yn dda – fy enw i (X2)
Mae’n cerdded gyda fi
Mae’n siarad gyda fi
Mae yn dweud wrtha’ i
Fy mod yn ei law

Pennill 2
Fe wyddost Ti – fy enw i (X2)
Ti’n fy nghysuro i
Ti yn fy arwain i
Mae’n fy rhyfeddu i
Dy fod Ti yn ffrind

Pont (X2)
Felly, rwy’n tywallt fy nghalon i
(Rwyf) innau yn newydd pan rwyf gyda Thi

Pennill 3 (X2)
Fe wyddost Ti – fy enw i (X2)
Ti’n cerdded gyda fi
Ti’n siarad gyda fi
Rwyt Ti yn dweud wrtha’ i
Fy mod yn Dy law

Pont (X2)
All dim byd fy llosgi i
All dim byd fy nhroi i
Na mynydd fy rhwystro
Rwyf i yn dy law
Buddugoliaeth yn dy gwmni
Yn rhoi’th bŵer oddi ‘mewn i
All dim byd fy nghoncro
Rwyf i yn dy law

Vamp
Ti’n dal fy llaw (X4)

Fe Wyddost Ti fy Enw i
You Know my Name (Brenton Brown a Cobbs Leonard)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2017 Meadowgreen Music Company; Tasha Cobbs Music Group; Thankyou Music
(Gwein. Capitol CMG Publishing, Integrity Music Ltd)
CCLI 7254495

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 12, 2025