Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist
I basio heibio i uffern drist,
Wedi ei phalmantu ganddo Ef,
O ganol byd i ganol nef.
Agorodd Ef yn lled y pen,
Holl euraidd byrth y nefoedd wen;
Mae rhyddid i’w gariadau Ef
I mewn i holl drigfannau’r nef.
Os tonnau gawn, a stormydd chwith,
Mae Duw o’n tu, ni foddwn byth;
Credwn yn gryf, down maes o law
Yn iach i’r lan yr ochor draw.
William Williams, Pantycelyn
PowerPoint