Frawd neu chwaer, fe’th wasanaethaf;
gad im fod fel Crist i ti;
boed i mi gael gras i dderbyn
dy wasanaeth di i mi.
Pererinion ŷm yn teithio,
a chymdeithion ar y daith;
yma rŷm i helpu’n gilydd-
rhodio’r filltir, cario’r baich.
Daliaf olau Crist i oleuo
yn nhywyllwch gwaetha’ d’ofn:
estyn llaw a wnaf tuag atat,
traethu wnaf dangnefedd ddofn.
Mi a wylaf wrth it wylo;
wrth it chwerthin chwarddaf i;
rhannu’th londer di a’th dristwch,
nes daw pen y daith i ni.
Wrth in foli Duw’n y nefoedd,
cytgord pur a brofwn ni,
wedi’i esgor o’n cyd-ddysgu
am loes Crist a’i gariad cu.
Frawd neu chwaer, fe’th wasanaethaf;
gad im fod fel Crist i ti;
boed i mi gael gras i dderbyn
dy wasanaeth di i mi.
Frawd neu chwaer, fe’th wasanaethaf
The servant song (Richard M. Gillard)
Cyfieithiad awdurdodedig Delyth Wyn
© 1977 Universal Music – Brentwood Benson Publishing (Gwein. gan Brentwood-Benson Music Publishing, Inc.)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint