Fy enaid, at dy Dduw,
fel gwrthrych mawr dy gred,
drwy gystudd o bob rhyw
a phob temtasiwn, rhed;
caf ganddo ef gysuron gwir,
fwy nag ar foroedd nac ar dir.
O na allwn roddi ‘mhwys
ar dy ardderchog law,
a gado i gystudd ddod
oddi yma ac oddi draw,
a byw dan nawdd y dwyfol waed
yng ngolwg hyfryd dŷ fy Nhad.
Mi fyddaf lawen iawn,
a’m gofid dan fy nhraed,
o fore hyd brynhawn,
dan adain gwir fwynhad;
nid oes dim arall is y nef
a ddaw â’m henaid tua thref.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 176)
PowerPoint