Fy ngweddi, Iôr, yw cael tyfu’n awr
Mewn ffydd a chariad, gras a hedd,
Ei ’nabod Ef, y Prynwr Mawr,
A cheisio’n daer cael gweld Ei wedd.
Fe’m dysgodd i weddïo’n rhydd,
A do, rwy’n siŵr, atebodd ’nghri.
Ond o’r fath fodd y profwyd ffydd,
Anobaith ddaeth i’m llethu i.
Gobeithio wnes am ffafriol awr
Ac Yntau’n syth yn ateb ’nghais,
A, thrwy holl rym Ei gariad mawr,
Fe drechai ’mai a dofi’m llais.
Ond yn lle hyn, ces brofi min
Drygioni cudd fy nghalon ddu,
A daeth holl nerthoedd uffern flin
I ’mosod ar fy enaid i.
Â’i law ei hun, fe dybiwn i
Mai’i fwriad oedd dwysáu fy ngwae,
Yn groes i’m holl gynlluniau lu,
A llorio wnaeth fy nghalon frau.
“Iôr, pam fel hyn?” oedd f’egwan gri
“Ai f’erlid wyt, ai dyma fydd?”
“Fel hyn y gwnaf,” medd f’Arglwydd i,
“Wrth ateb cais am ras a ffydd.”
“Y profion mewnol hyn a rof
I’th ollwng di o’th falchder hy,
Dy fwriad bydol, gwag, a drof
Fel y cei di d’oll fyth ynof Fi.”
Fy ngweddi, Iôr, yw cael tyfu’n awr
I asked the Lord that I might grow (John Newton 1725-1807)
Cyfieithiad Linda Lockley
Allan o hawlfraint
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint