Gweddi’r Pererin
Fy Nuw, fy Nhad, pan giliaf i’r cysgodion
yn wan fy ffydd, yn blentyn tlawd afradlon,
cyfeiria fi at loches y fforddolion
lle byddi di, yn disgwyl im nesáu.
Ac wrth nesáu, rhof heibio fy ffolineb
wrth geisio’r ffordd i fywyd o ffyddlondeb;
trwy niwl fy myd, synhwyro’th bresenoldeb
a theimlo’r llaw, sy’n estyn i’m hiacháu.
A thrwy’r iacháu, daw cyffro dy gyffyrddiad
yn brofiad byw, yn gyfrwng fy adfywiad;
er gwendid ffydd, o obaith daw arddeliad
a’th gariad di yn foddion i’w gryfhau.
Ar ôl cryfhau a’m derbyn yn etifedd
o fewn dy byrth, caf brofi o’th ddigonedd;
rhyfeddu wnaf, O Dad, at dy drugaredd
gan aros byth, i’th foli a’th fwynhau.
Fy Nuw, fy Nhad, pan giliaf i’r cysgodion
Eirian Dafydd
Enillydd gwobr Emyn i Gymru 2022, Dechrau Canu, Dechrau Canmol.
Tôn: gan Aled Myrddin, enillydd cystadleuaeth yr emyn-don 2022, Dechrau Canu, Dechrau Canmol
Mesur: 11.11.11.10
Sylwer bod modd i’r emyn hwn gael ei ganu hefyd ar y dôn Rhys (639 C.Ff.)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint