Gogoniant fo i’r Arglwydd
a ddug ein beiau i gyd
i’w hoelio ar Galfaria
i farw yno ‘nghyd;
cyfiawnder yw ei enw,
trugaredd yw ei lef,
a garodd ei elynion
yn fwy na gwychder nef.
Mae’n diffodd fflamau gofid,
mae’n difa brath pob clwy’;
fe roes y cyfan unwaith
a’i fawredd eto’n fwy
dihangodd o rwyd angau
a chwarddodd ar y bedd,
a rhoes y fuddugoliaeth
i bawb sy’n ceisio’i wedd.
Duw’r Tad osododd safon,
Duw’r Mab a dalodd Iawn,
a Duw yr Ysbryd Sanctaidd
sy’n rhoi’r llawenydd llawn;
O cadw ni rhag llithro
dan bwysau unrhyw faich
o fendith fawr dy gariad
a gafael gref dy fraich.
SIÔN ALED (©Siôn Aled, defnyddiwyd drwy ganiatâd)
(Caneuon Ffydd 506)
PowerPoint