logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwawriodd llonder dros y byd

Gwawriodd llonder dros y byd,
Gwiriwyd Gair y Crëwr:
Gwaredigaeth Duw a roed –
Gobaith pob preswyliwr.
Nid â ffanffer oddi fry,
Na gogoniant grasol,
Ond rhodd wylaidd cariad pur:
Iesu, faban dwyfol.

Sain rhyfeddod leinw’r nen
Gyda chân yr engyl,
Wrth i D’wysog mawr y byd
’Fochel draw mewn stabl.
Dwylo gynt fu’n ffurfio’r sêr,
Luniodd ddae’r mewn t’wyllwch,
Gydia nawr ym mron ei fam –
Egwan Faban Heddwch.

Plŷg bugeiliaid nawr i’r Oen,
Syllant ar ei ’sblander;
Rhoddion drud gan estron wŷr
Rhag-weld wnânt erchyllter.
Aur, fe anwyd Brenin Oes,
Thus, mae Duw’n bresennol,
Myrr, ffordd berffaith ddaw drwy’i Groes
Ei waed, gwnaeth ni’n waredol.

Epil Adda, Mab y Nef,
Rhoddwyd Ef yn bridwerth,
Cymod yw rhwng Duw a dyn,
Crist – ein nerthol Aberth.
O’r fath Gyfaill, Geidwad cu,
Syndod mawr yr hollfyd:
Baban Beth’lem unwaith ’fu –
Nawr mae’n Arglwydd Bywyd.

Gloria in excelsis Deo
Gloria in excelsis Deo

Dewch i Fethl’em nawr i weld
Testun cân ’r angylion
Moesymgrymwn ger ei fron –
Crist sy’n gwisgo’r goron.

Gloria in excelsis Deo
Gloria in excelsis Deo

Gwawriodd llonder dros y byd
Joy has dawned upon the world (Stuart Townend a Keith Getty)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© 2004 Thankyou Music (Gwein. Integrity Music Ltd)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • October 2, 2024